Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
ymchwilio i weld a yw deddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch
meysydd carafannau gwyliau a phreswyl yng Nghymru yn ddigonol ac /
neu a ydynt wedi’u rheoli’n briodol. Os nad ydynt,
rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y camau priodol. Rydym yn
pryderu’n arbennig am y peryglon a ganlyn i ddiogelwch:
1. Y bwlch rhwng carafannau;
2. Storio nwy potel; a
3. Gosod carafannau a strwythurau llosgadwy eraill yn y lle gwag
tair medr o led o fewn terfynau safleoedd.
Mae’r holl enghreifftiau hyn yn nodi risgiau i ddiogelwch y
mae’n ymddangos nad ydynt yn cael eu rheoli’n ddigonol
ar hyn o bryd.
Prif ddeisebydd:Brian Silvester
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 10 Rhagfyr 2013
Nifer y llofnodion:37